Wrth droi fy ngolwg yma(')i lawr
Wrth droi fy ngolwg yma'n awr

(Y mae efe yn rhagori ar ddeng mil)
1,2,3,4,5,6,7,8;  1,2,4,5,6,7;  1,4,5,7.
Wrth droi fy ngolwg yma'n awr,
I gyrau'r greadigaeth fawr;
  Gwrthddrych ni wêl fy enaid gwan,
  Ond Iesu i bwyso arno'n rhan.

Pwy wrendy riddfan
    f'enaid gwan,
Pwy'm dwg o'm holl ofidiau i'r lan?
  Pwy ddwg fy maich
      fel Brenin ne',
  Pwy gydymdeimla fel efe?

Agorodd ef, pan rwygai'r llen,
Holl auraidd byrth y nefoedd wen
  Ro'i rhyddid i'w gariadau ef,
  I mewn i holl drigfanau'r nef.

Ffordd newydd wnaed gan Iesu Grist,
Rhag syrthio draw i uffern drist;
  Ffordd yw a drefnwyd ganndo ef,
  O ganol byd
      i ganol nef.

Wel, dyma un, O dywedwch p'le,
Y gwelir arall fel efe;
  A bery'n ffyddlawn im' o hyd,
  Y'mhob rhyw drallod yn y byd.

Rho gymhorth etto i'm henaid gwan,
Nes dod o'r moroedd oll i'r lann,
  A chael fy nhraed ar sanctaidd dir,
  O fewn i gaerau'r ddinas glir.

Yn fynych, fynych, Iesu cu,
Datguddia'th fod yn eiddo i mi;
  Mewn tonnau môr yn wastad gâd,
  I'm ddysgu llefain, Abba, Dad.

Yn Peniel 'rwyt, fy enaid clyw,
Ymdrecha'n dêg âg angel Duw,
  Pwy ŵyr na's cai
      cyn tori'r wawr,
  Wir etifeddu'r fendith fawr.

                - - - - -
1,2,3,4,((5),6);  1,2,5,6.
Wrth droi fy ngolwg yma'i lawr,
I gyrau'r greadigaeth fawr;
  Gwrthddrych ni wel fy enaid gwan,
  Ond Iesu i bwyso arno'n rhan.

Dewisais ef, ac ef o hyd
'Ddewisaf mwy tra yn y byd;
  Can' gwynfyd ddaeth i'm henaid tlawd -
  Cael Brenin nefoedd
      imi'n Frawd.

Fy nghysur oll oddi wrtho dardd;
Mae'n Dad, mae'n Frawd,
    mae'n Briod hardd;
  F'Arweinydd llariaidd tua thref,
  F'Eiriolwr cyfiawn yn y nef.

Fe garaf bellach tra fwyf byw,
Uwch creaduriaid o bob rhyw;
  Er gwaethaf dae'r ac uffern drist,
  F'anwylyd i fydd Iesu Grist.

O! pa'm yr wyt, fy enaid, clyw!
Am grwydro yn mhell oddi wrth fy Nuw?
  Ni chês fath
      bleser dan y nef
  A gefais yn ei gariad ef.

Melus fel manna'r nefoedd fry
Yw hyfryd hedd f'Anwylyd cu;
  Mwynhâd o'i gariad ef a'i ras,
  Na'r diliau mêl
      sy'n well ei flas.
Fy nghysur oll :: 'Nghysuron oll
Fe garaf :: Ef garaf
Melus fel :: Mor bêr a

- - - - -
1,2,(3),4,5.

Wrth droi fy ngolwg yma i lawr,
I gyrau'r greadigaeth fawr,
  Gwrthddrych ni wel fy enaid gwan,
  Ond Iesu i bwyso arno'n rhan.

Dyma gyfarfod hyfryd iawn,
Myfi yn llwm, a'r Iesu'n llawn:
  Myfi yn dlawd heb feddu dim,
  A'r Iesu'n rhoddi pob peth im'.

Anturia'n mlaen fy enaid cu
At orsedd Iesu, er mor ddu;
  Mae'r ffordd yn rhydd,
      a'r rhodd yn rhad,
  I bawb a gredant yn y gwaed.

Mae gras yn rhyw anfeidrol 'stor,
A doniau ynot fel y mor;
  O! gad i'r truenusaf ddyn,
  Gael profi gronyn
      bach o'u rhin.

'Does arnaf eisiau yn y byd,
Ond golwg ar dy haeddiant drud;
  A chael rhyw brawf
      o'th nefol rin,
  I 'madaw'n lan a mi fy hun.

             - - - - -

Wrth droi fy ngolwg yma'n awr,
I gyrrau'r greadigaeth fawr,
  Gwrthddrych ni wel fy enaid gwan,
  Ond Iesu i bwyso arno'n rhan.

Gweddio'r wyf ochneidio'n brudd,
Rhyfela'n dêg am garrio'r dydd,
  Ond golwg ar dy glwyfau mawr,
  A dyn fy mhechod oll i lawr.

Tra caffwyf rodio'r ddaear hon
Rho'th hedd fel afon
    dan fy mron;
  Ac yn y diwedd moes dy law,
  I'm dwyn i mewn i'r nefoedd draw.
William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Angels' Song / Song 34 (Orlando Gibbons 1583-1625)
Boston (Lowell Mason 1792-1872)
Brynteg (J A Lloyd 1815-74)
Carey (Henry Carey 1687-1743)
Eden (L Mason / T B Mason)
Llangollen (alaw Gymreig)
Melcombe (Samuel Webbe 1740-1816)
New Sabbath (<1835)
Portugal (Thomas Thorley)
Rockingham (Edward Miller 1731-1807)
Samson (George Frederick Handel 1685-1759)
Sebastian (D Vetter / J S Bach)

gwelir:
  'Does arnaf eisiau yn y byd
  'Does dim o gylch yr awyr fry
  Dyma gyfarfod hyfryd iawn
  Ffordd newydd wnaed gan Iesu Grist
  O gyfarfyddiad hyfryd iawn
  Gweddio 'rwyf och'neidio yn brudd
  O nertha'm henaid gwan ei ffydd
  O'r diwedd fe iachaed fy nghlwy'
  'R wyf yma Arglwydd wrth Dy draed
  'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy'
  Rhyfeddu'r wyf O Arglwydd cun
  Yn fynych fynych Iesu cu

(He is better than ten thousand)
 
While turning my gaze here now,
To the corners of the great creation;
  No object does my weak soul see,
  But Jesus to lean upon at all.

Who will listen to the groans
    of my weak soul,
Who will bear me up from all my fears?
  Who will bear my burden
      like the King of heaven,
  Who will sympathise like he?

He opened, when the curtain was tearing,
All the golden portals of the bright heavens
  To give freedom to his lovers,
  Into all the dwellings of heaven.

A new way was made by Jesus Christ,
From falling yonder to sad hell;
  A way it is that was planned by him,
  From the middle of the world
      to the middle of heaven.

See, here is one, O tell ye where,
Is seen another like him;
  Who will continue faithful to me always,
  In every kind of trouble in the world.

Give help again to my weak soul,
Until coming up from all the seas,
  And getting my feet on sacred land,
  Within the fortresses of the clear city.

Often, often, dear Jesus,
Reveal that thou belongst to me;
  In great waves constantly let
  Me learn to cry, Abba, Father.

In Peniel thou art, my soul,
Wrestling fairly with the angel of God,
  Who knows whether I will get
      before the dawn breaks,
  Truly to inherit the great blessing.

                - - - - -
 
While turning my gaze here below,
To the corners of the great creation;
  No object does my weak soul see,
  But Jesus to lean upon at all.

I chose him, and him still
I will choose the more while in the world;
  Since blessedness came to my poor soul -
  To get the King of heaven
      for me as a Brother.

All my comfort from him springs;
He is a Father, he is a Brother,
    he is a beautiful spouse;
  My gentle Leader towards home,
  My righteous Advocate in heaven.

Him I will love while I live,
Above creatures of every kind;
  Despite the worst of earth and sad hell,
  My beloved shall be Jesus Christ.

Oh why art thou, my soul, hear!
Wanting to wander far from my God?
  I never got the kind of
      pleasure under heaven
  That I got in his love.

Sweet like the manna of the heavens above
Is the delightful peace of my dear Beloved;
  Enjoyment of his love and his grace,
  Than the drips of honey
      is of a better taste.
All my comfort :: All my comforts
::
Sweet like :: As sweet as

- - - - -
 

While turning my gaze here below,
To the corners of the great creation,
  No object does my weak soul see,
  But Jesus to lean upon at all.

Here is a very delightful meeting,
I empty, while Jesus is full:
  I poor without owning anything,
  And Jesus giving everything to me.

Venture forward my dear soul
To the throne of Jesus, though so black;
  The way is clear,
      and the gift free,
  To all who believe in the blood.

Grace is some immeasurable store,
And gifts in it like the sea;
  Oh let the most pitiful man,
  Get to taste a small
      grain of their virtue.

I want nothing in the world,
But sight of thy dear merit;
  And to get some taste
      of thy heavenly virtue
  To renounce completely my self.

               - - - - -

While turning my gaze here now,
To the corners of the great creation,
  No object does my weak soul see,
  But Jesus to lean upon at all.

Praying I am groaning sadly,
Battling fairly to carry the day,
  But a look upon thy great wounds,
  Shall pull all my sin down.

While I get to walk this earth
Grant thy peace like a river
    under my breast;
  And at the end give thy hand,
  To lead me into yonder heaven.
tr. 2014,19 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~